Newid hinsawdd, rhyfel, trychinebau naturiol, masnach deg, masnach gyfiawn - mae materion datblygiad rhyngwladol yn uchel ar restr y pethau sydd yn poeni pobl ifanc.
Dyma faterion mae ieuenctid yn teimlo�n gryf amdanynt, ond yn aml heb y ffeithiau ac yn teimlo�n ddi-rym i allu gwneud gwahaniaeth. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i hyrwyddo�r materion yma trwy Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF, sy�n cael ei adnabod hefyd fel Gwaith Ieuenctid Byd-eang). Mae Cymorth Cristnogol yma i helpu.
Y mae gennym ystod eang o adnoddau i helpu pobl ifanc ddysgu am faterion datblygu. O sesiynau unigol i gemau efelychiadol a gwasanaethau ysgolion, pob un wedi ei gynllunio i�ch helpu i feddwl am fywyd mewn gwlad ddatblygol a sut y gallwn ni gyd wneud gwahaniaeth.
Mae�r gyfres mpower yn cynnig y cyfle i arweinwyr ieuenctid i fynd i�r afael � phynciau fel HIV/AIDS a newid hinsawdd. Mae�r diweddaraf yn y gyfres, Eyes on the Storm, yn edrych ar argyfyngau. Mae�r sesiynau unigol yn trafod pob math o bynciau o ffonau symudol i b�l-droed i ffoaduriaid.
Gellir defnyddio ein gemau efelychu poblogaidd mewn nifer o leoliadau gwahanol. Dysgwch sut mae plant ifanc yn yr India yn colli allan ar ysgol er mwyn ennill arian i�w teuluoedd trwy wneud bagiau allan o hen bapur newydd i�w gwerthu - Y G�m Bag Papur. Gwyliwch golli�ch tymer wrth chwarae The Trading Game lle mae gwledydd tlawd yn brwydro i fasnachu, o dan reolau annheg sy�n rhwystro eu datblygiad. Mae The Poverty Challenge yn edrych ar ymdrechion dyddiol cymunedau tlawd i fwydo eu teuluoedd.
Ar gyfer ysgolion, y mae gennym wasanaethau parod a syniadau dosbarth i oed cynradd ac uwchradd. Gellir lawr-lwytho llawer o�r deunydd yma a�i ddefnyddio�n syth, gan gynnwys cyflwyniadau PowerPoint, galeri lluniau, astudiaethau achos a thaflenni gwaith.
Mae nifer o�r adnoddau hyn yn rhad ac ar gael yn y Gymraeg, ac fe ellir eu gweld ar wefan Learn.
Cofiwch hefyd fod gan Cymorth Cristnogol wirfoddolwyr i ymweld ag ysgolion er mwyn siarad mewn gwasanaethau neu gymryd sesiynau dosbarth. Am fwy o wybodaeth ynglyn � dod yn athro/athrawes wirfoddol i Cymorth Cristnogol, e-bostiwch ysgolion neu ieuenctid, neu ffonio 029 2084 4646.
Mae cyfle unigryw i ddysgu am ddatblygiad rhyngwladol drwy ymuno �r cynllun Platform2, sy�n cynnig y cyfle, rhad ac am ddim, i bobl ifanc rhwng 18-25 dreulio cyfnod yn gwirfoddoli mewn gwlad ddatblygol!
Mae�r prosiectau cymunedol hyn sy�n parhau am 10 wythnos yn rhoi blas ar fywyd fel y mae mewn cymunedau tlawd yng ngwledydd fel Ghana, India, De Affrica a Peru. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch � Gwefan Platform2.