Newid Hinsawdd: Bai pwy? Ein bai ni…

The Senedd buildingBydd Oriel y Senedd ym Mae Caerdydd yn llwyfan i neges Heddwch ac Ewyllys Da, Urdd Gobaith Cymru ar ddydd Mawrth,19 Mai, a luniwyd gan ddisgyblion Ysgolion Uwchradd Plasmawr a Fitzalan yng Nghaerdydd. Yn canolbwyntio ar newid hinsawdd, mae’r neges eleni yn ffrwyth gweithdy gan Angharad Rhys, gwirfoddolwraig ieuenctid Cymorth Cristnogol yng Nghymru.

Y mae’r neges, oddi wrth ieuenctid Cymru i ieuenctid y byd, wedi ei ddarlledu’n flynyddol ers 1925, ac eleni fe’i cyfieithwyd i 36 o ieithoedd. Y mae hefyd ar gael ar ffurf CD sy’n cynnwys cân, ‘Twymo Byd Eang.’

Gan roi sylw i beryglon a chanlyniadau newid hinsawdd o gwmpas y byd, mae’r neges - ‘NewidHinsawdd: Bai pwy? Ein bai ni.....’ yn cadarnhau ymgyrch amgylcheddol y mudiad, Urdd Gwyrdd.

Meddai Angharad ‘Mae’n wych bod aelodau’r Urdd wedi penderfynu rhoi sylw i fater newid hinsawdd yn eu neges i ieuenctid y byd eleni.

Gobeithio bydd lleisiau pobl ifanc Cymru a’r byd yn dylanwadu ar y rhai hynny fydd yn cymryd rhan yn y trafodaethau allweddol ar newid hinsawdd yn Copenhagen yn hwyrach eleni.’

Climate justice

Follow the talks with our summit gauge and diary.

Copenhagen

Christian Aid is a registered charity in the UK (no. 1105851)