Tynnu sylw at newid hinsawdd

Daeth tua 150 o bobl ynghyd i’r Goleulong ym Mae Caerdydd ar fore Sadwrn 24 Ionawr, er mwyn cymryd rhan mewn digwyddiad i dynnu sylw at fater newid hinsawdd.

Trefnwyd y digwyddiad - ‘Achub y Greadigaeth yn Copenhagen’, gan Operation Noah, sy’n fudiad ffydd yn ymgyrchu’n unig ar faterion newid hinsawdd, a’r uchafbwynt oedd gorymdaith liwgar o blant, o dair o ysgolion cynradd Caerdydd.

Yn gwisgo masgiau anifeiliaid, ac yn cario lluniau o gymunedau sydd mewn perygl oherwydd newid hinsawdd, aethant ar fwrdd y Goleulong, gan ail-greu stori Arch Noa.

Trafodaethau hinsawdd CU

Mae ‘Achub y Greadigaeth yn Copenhagen’ yn cyfeirio at y trafodaethau allweddol ar newid hinsawdd yn Copenhagen yn Rhagfyr 2009, sy’n cael eu trefnu gan y CU ar gyfer arweinwyr y byd.

Gobaith Operation Noah yw y bydd y digwyddiad yn helpu roi pwysau ar y gwleidyddion i fynd i’r afael â mater newid hinsawdd, a thrwy hynny ddiogelu dyfodol rhai o bobl dlotaf ein planed, yn ogystal â rhywogaethau anifeiliaid sydd mewn perygl oherwydd newid hinsawdd.

Gwnewch adduned Copenhagen

Gall protestio fod yn hwyl

Roedd John Rowlands o Gaerdydd, un o’r cerddwyr ar Daith Torri’r Carbon Cymorth Cristnogol yn 2007, yn siarad yn nigwyddiad y Goleulong. Meddai,

‘Rwy’n credu fod hwn yn ddigwyddiad pwysig iawn, gan ei fod yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Wedi’r cwbl nhw piau’r dyfodol, ac fe allent ein procio ni, oedolion i weithredu gyda hwy.’

‘Fe ddangosodd hefyd fod protestio yn gallu bod yn hwyl ac yn ddathliad o fywyd.’

Ychwanegodd Jeff Williams, pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru: ‘Roedd hyn yn neges bwysig gan blant Cymru ar ddechrau’r flwyddyn allweddol hon i’n planed a’i thrigolion, ac yn arbennig y cymunedau tlawd.’ 

‘Gobeithio gall yr arch hwylio’r holl ffordd i Copenhagen!’

Christian Aid is a registered charity in the UK (no. 1105851)