Mae Cymorth Cristnogol wedi lansio apêl arbennig i gefnogi’r miloedd o bobl yn Zimbabwe sydd angen cymorth dyngarol ar frys.
Yn gynharach eleni gwelwyd saith miliwn o bobl angen cymorth bwyd ac yn dilyn cynhaeaf gwael, mae pobl y wlad yn paratoi eu hunain at flwyddyn arall o ansicrwydd bwyd.
Oherwydd sychder, rhwydweithiau mewnol ar chwâl ac economi wedi dymchwel, nid yw’r bobl yn gallu tyfu digon o fwyd i'w cynnal o ddydd i ddydd.
Ond os gweithredir nawr, gallwn eu helpu i osgoi’r argyfwng presennol.
Newyn ac Afiechyd
Mae adroddiadau diweddar gan asiantaethau dyngarol wedi rhybuddio bod yn rhaid mynd i’r afael â’r mater o ansicrwydd bwyd, neu fe gollir mwy o fywydau i afiechydon fel colera, anthracs, y diciâu a malaria.
Yn ôl y CU, roedd nifer yr achosion o golera yn Zimbabwe wedi cyrraedd 100,000 erbyn yr wythnos olaf ym Mai ac mae mwy na 4,000 o bobl wedi marw.
Roedd dros hanner y plant a fu farw oherwydd cholera yn dioddef o ddiffyg maeth.
Bydd eich cyfraniadau yn cyfrif
Bydd cyfraniadau i apêl Cymorth Cristnogol yn helpu codi arian i ddarparu hadau, offer a hyfforddiant amaethyddol cyn bod y tymor plannu’n dechrau ym mis Hydref.
Dylasai hynny sicrhau cynhaeaf digonol ym mis Ebrill, gyda digon o fwyd am y flwyddyn i filoedd o bobl, a’u galluogi i ennill digon o arian i dalu am ofal meddygol angenrheidiol.