Apêl De Affrica

Mae Apêl De Affrica Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi codi'r cyfanswm rhyfeddol o £206,740.66.

Bydd yr arian yma yn rhoi’r gefnogaeth angenrheidiol i waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Ne Affrica sy’n gweithio ar faterion fel HIV, hawliau dynol, ieuenctid o dan anfantais a brodorion yr ardaloedd gwledig sydd heb dir.

Dywedodd Parchg. Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, bod ‘gweld yr eglwysi yn ymateb gyda’r fath haelioni yn rhoi boddhad mawr i mi. Cymerwyd rhan gan bobl o bob oed, gan roi mynegiant ymarferol i’w ffydd.’

Roedd hefyd yn canmol ymroddiad y ddau a fu allan yn Ne Affrica ar ran yr Undeb, Delyth Evans a Glyn Williams. ‘Mae’r ddau wedi gweithio’n eithriadol o galed er mwyn i’r apêl lwyddo,’ meddai.

Cytunai Delyth Evans bod yr eglwysi wedi ymateb yn wych i’r apêl. ‘Wrth ymweld â’r eglwysi roeddwn i’n cael ymateb cadarnhaol. Roedd pobl yn deall yr angen am gyfiawnder yn Ne Affrica.’

Roedd Glyn Williams yntau yn canmol haelioni cynulleidfaoedd UAC, ‘Rwyf mor falch bod yr eglwysi wedi ymateb i’r her mewn ffordd mor arbennig.’

Gwerthu murlun

A mural created to raise money for the UWI appeal. Un o’r nifer o syniadau gwreiddiol i godi arian oedd murlun trawiadol wedi ei wneud gan Jill Jones, gwraig cyn-gadeirydd Adran Dinasyddiaeth Gristnogol yr Undeb, oedd yn gyfrifol am gydlynu’r apêl yn ystod y cyfnod cynnar.

Rhoddodd Jill y murlun (ar y chwith) i’r apêl, a’r nod oedd codi £1,200 i’w brynu er mwyn ei gadw yn Nhŷ John Penri, pencadlys UAC yn Abertawe fel cofarwydd. Ond llwyddwyd i gasglu £2,500 - gyda phob ceiniog yn mynd tuag at Apêl De Affrica.

Codi arian i Haiti

Ond nid dyna ddiwedd ar gonsýrn eglwysi UAC. Maent wedi ymateb yn rhyfeddol hefyd i apêl bersonol gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol yn dilyn daeargryn Haiti.

‘Nid dyma’r amser i oedi, i wneud esgusion nac i fod yn galon galed’, meddai. ‘Mae angen help ar bobl Haiti. Yn enw Duw, yn enw Iesu Grist, gadewch i ni eu helpu.’

Hyd yn hyn mae’r eglwysi wedi cyfrannu dros £52,187 i Apêl Daeargryn Haiti Cymorth Cristnogol. 

Mwy o wybodaeth am Apêl Daeargryn Haiti

 

Apel UAC

Trwy gyfrannu i Apel UAC fe wnewch wahaniaeth i rhai o bobl dlotaf De Affrica.

GB Pounds (GBP)

Sign up for emails

Llwyddiant codi arian

Christian Aid is a registered charity in the UK (no. 1105851)