Ein hapêl De Affrica

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg (UAC) yn galw ar holl aelodau’r eglwysi i ymateb yn hael i’w hapêl De Affrica ar ran Cymorth Cristnogol.

Mae’r apêl, fydd yn rhedeg am flwyddyn, yn canolbwyntio ar bump o bartneriaid Cymorth Cristnogol - sy’n gweithio gyda’r rhai sydd heb dir, gwragedd sy’n byw gyda HIV, pobl ifanc difreintiedig a phlant amddifad a bregus, ac fe’i lansiwyd yn swyddogol ar 4ydd o Orffennaf 2008 yng nghyfarfodydd blynyddol UAC yn Abertawe.

Dyma’r pumed tro i UAC gefnogi gwaith partneriaid Cymorth Cristnogol ar draws y byd.

Cefnogi ein gwaith

Dywedodd Gareth Morgan Jones, sy’n cadeirio adran dinasyddiaeth UAC, ‘Cawsom ymateb da i Apeliadau Bangladesh, Canolbarth America, Swdan ac  Israel-Palesteina, ac yr ydym yn awyddus i gefnogi gwaith partneriaid  Cymorth Cristionogol yn Ne Affrica y  tro  hwn.’

Ein gobaith yw y bydd ein heglwysi yn uniaethu gyda'r sefyllfaoedd ac yn casglu yn hael i gefnogi’r gwaith.’

Pecyn yr apêl

Y bwriad y tro yma yw cael y 26,000 o aelodau’r 450 eglwys sy’n perthyn i UAC i godi £1 bob mis am flwyddyn yr apêl, ac mae’r pecyn apêl arbennig ar y wefan hon yn cynnwys sawl awgrym i gynorthwyo’r eglwysi i gyrraedd eu nod. 

Mae tudalen Apêl De Affrica ar y wefan hefyd yn cynnwys manylion am waith ein partneriaid, deunydd ar gyfer codi arian ac addoliad, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt a helynt yr apêl .

Clwyfau dyfnion

Er bod y sefyllfa wedi gwella tipyn yn Ne Affrica ers diwedd apartheid, mae yna glwyfau dyfnion o hyd: y niwed a achoswyd gan apartheid, diweithdra, HIV ac AIDS a thlodi dybryd. 

Mae mwy nag 20 million o bobl De Affrica yn byw ar lai na £1 y dydd a miliwn o blant yn amddifad oherwydd AIDS.

Mae Llywydd UAC, Parchg. Dewi Myrddin Hughes yn gweld yr apêl fel ‘cyfle i ni ddysgu am y caledi, a hefyd y llwyddiant i oresgyn anawsterau’.
‘Hyderaf yn fawr y byddwn yn llwyddo i gyrraedd y nod ariannol fel y gallwn ni roi help effeithiol lle mae’r angen mor fawr.’
 

 

Apel UAC

Trwy gyfrannu i Apel UAC fe wnewch wahaniaeth i rhai o bobl dlotaf De Affrica.

GB Pounds (GBP)

Sign up for emails

Ein hapel De Affrica

Christian Aid is a registered charity in the UK (no. 1105851)