Ein gwaith

O deuluoedd sydd heb hawl ar dir i ieuenctid difreintiedig ar gyrion Durban, mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn cefnogi pobl De Affrica yn eu brwydr yn erbyn tlodi.   

Mae Apêl Undeb yr Annibynnwr Cymraeg yn canolbwyntio’n bennaf ar waith pump o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Ne Affrica.

Maent yn gweithio mewn pedair prif faes: Cefnogi pobl yn yr ardaloedd gwledig sydd heb hawl ar dir, gweithio gydag ieuenctid difreintiedig, ymateb i’r argyfwng HIV, a chymod a maddeuant yn dilyn y cyfnod o apartheid.  

Ieuenctid difreintiedig

Byd gwahanol iawn yw maestrefi De Affrica i’r dinasoedd modern gerllaw. Yno, mae trigolion tlotaf y wlad wedi eu gwthio i mewn i getoau gwasgarog gyda chartrefi sy’n syrthio i lawr, fawr ddim gwaith a graddfa uchel o droseddu.

20 km o ddinas lewyrchus Durban, mae KwaMashu, sy’n gartref i hanner miliwn o drigolion du tlawd De Affrica. Gyda diweithdra yn 80%, graddfeydd uchel o HIV a throseddau treisgar, does gan lawer o’r bobl ifanc sy’n byw yma fawr ddim i’w obeithio amdano.

Ond o fewn y cyd-destun annynol hwn o dlodi a thrais y mae KwaMashu Community Advancement Project (KCAP) yn cynnig gwersi mewn dawns, drama, cerdd a dylunio.

Mae’r ganolfan yn rhoi ystyr a gobaith i fywydau cannoedd o ieuenctid, ac yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddod o hyd i waith ym myd y celfyddydau. Mae’r perfformiadau yn drawiadol a pherthnasol, yn aml yn delio gyda materion fel troseddu, HIV a bywyd yn y carchar.

Rhai yn yr ardaloedd gwledig heb dir

Mae’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd yn Ne Affrica gyda’r mwyaf yn y byd. Wedi blynyddoedd o lywodraeth gwladychol ac apartheid, mae’r rhan fwyaf o’r tir yn dal yn nwylo’r lleiafrif gyfoethog.

Cymerwyd tir oddi wrth lawer o deuluoedd gwledig tlawd yn ystod gwladychiaeth neu apartheid. Bellach mae’r Association for Rural Advancement (AFRA) yn helpu’r teuluoedd hyn ac eraill i fynd i gyfraith er mwyn hawlio eu tir yn ôl.

Wedi derbyn y tir, mae AFRA yn sicrhau bod y teuluoedd yn cael y gefnogaeth angenrheidiol er mwyn iddynt allu gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’u tir.

Maent hefyd yn helpu rhai sy’n cael eu taflu oddi ar eu tir yn annheg gan roi gwybodaeth iddynt ynglŷn â hawliau tai.  

HIV

Mae mwy nag un ymhob pump o oedolion De Affrica yn HIV positif, ac mae’r afiechyd wedi gwneud dros filiwn o blant yn amddifad. 

Cefnogir y plant amddifad hyn ynghyd â phlant bregus eraill yn ardal Pietermaritzburg, gan Thandanani Children’s Foundation, partner Cymorth Cristnogol. Maent yn darparu bwyd, cysgod, mynediad i addysg a chefnogaeth emosiynol. 

Yn Cape Town a’r maestrefi cyfagos, mae ein partner Wola Nani yn cefnogi gwragedd sy’n HIV positif ynghyd â’u plant trwy gynnig gofal a gwasanaeth cynghori.

Cymod a datblygiad

Lobïo eglwysi i gefnogi’r alwad am grant misol sylfaenol fyddai’n codi pobl dlotaf De Affrica allan o dlodi enbyd, ynghyd a threfnu cyrsiau syml mewn economeg er mwyn  helpu pobl gyffredin i ddeall sut mai economi De Affrica yn gweithio.

Dim ond dwy enghraifft o waith eang ac amrywiol y Pietermaritzburg Association for Christian Social Awareness (PACSA) - partner Cymorth Cristnogol sy’n ceisio ysbrydoli eglwysi a grwpiau cymunedol ynghyd a phobl fregus, ar y cyrion i chwarae rhan lawnach a mwy gweithredol mewn cymdeithas.  

Mae’r gwaith yn cynnwys addysgu, myfyrdod ysbrydol ac ymgyrchu ar faterion fel tlodi ac anghyfartaledd, trais yn y cartref, masnach a HIV.

Tra bod gwaith cymodi gyda chymunedau a greithiwyd gan flynyddoedd o drais gwleidyddol yn faes pwysig arall i PACSA.  

 

 

 

 

 


 

Apel UAC

Trwy gyfrannu i Apel UAC fe wnewch wahaniaeth i rhai o bobl dlotaf De Affrica.

GB Pounds (GBP)

Sign up for emails

Ein gwaith

Christian Aid is a registered charity in the UK (no. 1105851)