Creodd ymweliad â phartneriaid Cymorth Cristnogol yn Ne Affrica argraff ddofn ar ddau gynrychiolydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac fe fydd yn help iddynt wrth hyrwyddo apêl UAC dros y flwyddyn nesaf.
Treuliodd Delyth Evans a Glyn Williams bythefnos ar ddiwedd Ebrill yn ymweld â’r partneriaid yn Pietermaritzburg, Durban, Stellenbosch a Cape Town, yng nghwmni Tom Defis, aelod o staff Cymorth Cristnogol.
‘Gonestrwydd y bobl yw un o’r pethau mwyaf fydd yn aros gyda mi,’ medd Glyn, sy’n ysgrifennydd cyhoeddiadau capel Y Trallwng.
‘Roeddent yn agored iawn ynglŷn â’u problemau ac yn barod i rannu eu profiadau gyda ni, ac mor werthfawrogol o’r cymorth sy’n dod gan bartneriaid Cymorth Cristnogol.’
‘Mae’r sefyllfa yn gymhleth,’ yn ôl Delyth sy’n gweithio yn swyddfa’r enwad yn Abertawe.
‘Mae gan y bobl yno broblemau dybryd, a does dim atebion hawdd yn cynnig eu hunain, ond mae’r partneriaid wnaethom ni eu cyfarfod yn sicr yn ceisio gwneud gwahaniaeth. Fe ges i argraff dda iawn o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar HIV/AIDS.’
Diwrnod diffyg-rhyddid
Un o uchafbwyntiau’r ymweliad i’r ddau oedd y gwasanaeth wnaethon nhw fynd iddo yn nhref sianti Kennedy Road, ar gyrion Durban.
‘Roedd hi’n Ddiwrnod Rhyddid Cenedlaethol, sy’n nodi pen-blwydd yr etholiad democrataidd cyntaf yn 1994,’ meddai Delyth, ‘ond fe benderfynodd y bobl yno gynnal gwasanaeth diwrnod diffyg-rhyddid am eu bod yn teimlo eu bod nhw’n dal yn gaeth i dlodi. ’
‘Fe eisteddom ni am bum awr ar ymyl tomen sbwriel y cyngor lleol, sy’n gartref i gannoedd o deuluoedd, yn gwrando ar Reuben Phillips, Esgob Natal, sydd wedi gwneud cymaint i drio helpu’r bobl’, ychwanegodd Glyn.
‘Er bod llawer yn byw o dan amgylchiadau enbyd iawn, roedd yna deimladau o obaith i’w synhwyro ym mhob man y buom ni. Mae’r partneriaid yn sicr yn gwneud gwaith aruthrol.’
Rhannu storïau
Mae Glyn a Delyth yn sicr fod yr ymweliad wedi bod yn werth ei wneud ac fe fydd yn ffactor bwysig ar gyfer llwyddiant yr apêl.
‘Roedd cyfarfod â’r partneriaid a chwrdd â’r bobl yn eu cynefin wedi’n helpu ni i ddeall ac uniaethu â’u problemau. Mae fyny i ni nawr i rannu eu storïau.’
Dilynwch hynt apêl UAC ar y wefan hon.