Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gydag eglwysi, cymunedau, ysgolion, mudiadau ieuenctid ac unigolion ym mhob rhan o Gymru, er mwyn brwydro yn erbyn anghyfartaledd rhyngwladol a gorchfygu tlodi mewn tua 50 o wledydd ar draws y byd.
Yr ydym yn cefnogi pwyllgorau Cymorth Cristnogol lleol, yn arbennig felly yn y cyfnod yn arwain i fyny at Wythnos Cymorth Cristnogol - ein hymdrech flynyddol i godi arian sy’n digwydd ym mis Mai. Mae gennym staff sy’n barod i bregethu a siarad am waith Cymorth Cristnogol gyda grwpiau lleol, mewn ysgolion ac yn yr eglwysi. Y mae gennym rwydweithiau o ymgyrchwyr, athrawon gwirfoddol a gwirfoddolwyr eraill, sy’n derbyn cefnogaeth gennym. Ac yr ydym yn trefnu digwyddiadau a theithiau ymwelwyr i Gymru o fudiadau partner Cymorth Cristnogol sy’n gweithio dramor.
O’r cychwyn y mae Cymorth Cristnogol wedi ymdrechu i sicrhau bod ei hunaniaeth a’i wreiddiau yn rhai Cymreig. Adlewyrchir hynny yn y ffaith ein bod yn gweithredu, cymaint ag sy’n bosibl, fel mudiad dwyieithog, ac y mae staff Cymorth Cristnogol yng Nghymru yn rhugl yn y ddwy iaith. Cred Cymorth Cristnogol nid yn unig fod hyn y peth iawn i’w wneud ond hefyd mai dyma’r unig ffordd i fod yn berthnasol i Gymru gyfan. Er mwyn bod o wasanaeth i’r gymuned Gymraeg yr ydym yn paratoi deunydd ac adnoddau ar gyfer addoli, addysgu ac ymgyrchu yn yr iaith Gymraeg.
Y mae’r berthynas dda sydd rhwng Cymorth Cristnogol a’r eglwysi yng Nghymru wedi ei gwreiddio yn y ffaith fod y mudiad o’i ddechreuadau wedi tyfu allan o’r eglwysi a’r cymunedau lleol, yn hytrach na bod yn rhywbeth estron a blannwyd o’r tu allan.
Y mae’r enwadau sydd â’u pencadlysoedd yng Nghymru - Yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg yn cael eu cynrychioli ar Bwyllgor Cenedlaethol Cymru, Cymorth Cristnogol sy’n cyfarfod dwywaith y flwyddyn. Y mae’r pwyllgor hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb Bedyddwyr Prydain, y Crynwyr a Byddin yr Iachawdwriaeth, ynghyd ag aelodau cyfetholedig. Y mae Cymorth Cristnogol hefyd yn gweithio o fewn CYTÛN (Eglwysi ynghyd yng Nghymru), ac mae yna gysylltiadau wedi’u creu gyda rhai o’r eglwysi newydd.
Y mae Cymorth Cristnogol yn cyd-weithio gydag asiantaethau rhyngwladol eraill sydd â phresenoldeb yng Nghymru mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin. Trefnir cyfarfodydd cyhoeddus, ymgyrchoedd a lobïau ar y cyd, ac y mae Cymorth Cristnogol yn un o sylfaenwyr DEC Cymru, sy’n gyfrifol am Apeliadau Cenedlaethol mewn ymateb i argyfyngau yn y gwledydd tlawd.
Yn 1999 sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru - gweinyddiaeth ddatganoledig gydag ystod eang o gyfrifoldebau dros sefydlu a gweithredu polisi domestig yng Nghymru. Y mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda’r Cynulliad drwy Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru (WOAG) a’r grŵp Amlbleidiol ar Ddatblygiad Rhyngwladol (APGID).
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi rhoi grymoedd newydd i’r cynulliad gan agor y posibilrwydd o Gymru yn cael ariannu gwaith rhyngwladol fydd yn mynd i’r afael â thlodi. Y mae’r cynulliad hefyd yn gweithio ar sefydlu ei pholisi ei hun i ddelio â materion newid hinsawdd yng Nghymru.