Pan edrychwn ar ein byd, beth welwn ni? Trais a gwrthdaro. Trychineb newid hinsawdd. Tlodi mor enbyd nes gyrru gwragedd i weithio ar y strydoedd er mwyn bwydo eu plant. Cymaint o anwybodaeth fel bod gwŷr yn gallu trosglwyddo HIV i’r rhai maent yn eu caru.
Ond wedi 60 mlynedd o ymdrechu i roi terfyn ar dlodi ac anghyfiawnder, dydi rhoi'r gorau iddi ddim yn opsiwn i ni.
Wedi ein hysbrydoli gan ein gwerthoedd o obaith, cyfiawnder, dewrder a gonestrwydd, yr ydym wedi ymrwymo i greu byd cyfiawn. Nawr. Nid jyst yn y dyfodol. Credwn mewn bywyd cyn marwolaeth.
Y mae gennym dri amcan sylfaenol:
Rydym yn gweithio lle bo’r angen mwyaf mewn tua 50 gwlad, heb ystyried hil, cenedligrwydd na chrefydd, er mwyn delio â dioddefaint ac atal tlodi - naill ai trwy ddarparu cymorth brys neu ddatblygiad dros y tymor hir.
Wedi 60 mlynedd o ymdrechu i roi terfyn ar dlodi ac anghyfiawnder, dydi rhoi'r gorau iddi ddim yn opsiwn
Rydym yn cefnogi 716 o fudiadau lleol sy’n gwybod y ffyrdd gorau o roi i bobl yr hyn sydd ei angen arnynt. O ddarparu lloches i wragedd a gurwyd yn Iraq, helpu pobl i ennill gwell bywoliaeth wrth drin eu tir yn Bangladesh neu roi cymorth brys i deuluoedd ym mhentrefi Afghanistan sy’n cael eu gorfodi i werthu eu merched mewn priodas er mwyn cael arian i oroesi sychder.
Mae rhoi terfyn ar dlodi yn fwy na gosod plaster glynu. Pan fod yn rhaid gwneud, yr ydym yn barod i godi llais i herio achosion tlodi. Ac fe wnawn hynny yn gyson.
Pan fod ein partneriaid yn gwneud safiad, yr ydym yn eu cefnogi. Safwn ochr yn ochr â’n partneriaid yn Zimbabwe, wrth iddynt osod eu hunain mewn perygl er mwyn creu newid; yn Darfur, lle gall gwrthwynebu llywodraeth Swdan olygu carchar; ac yn Colombia, pan fod ymgyrchu dros hawliau dynol yn gallu dod â bygythiad o farwolaeth.
Gyda bron i 100,000 o ymgyrchwyr, a channoedd o filoedd o gefnogwyr mewn eglwysi a chymunedau ar draws y DG ac Iwerddon, yr ydym, yn gyntaf a phennaf, yn fudiad o bobl sydd am weld newid.
Nid ydynt hwy yn dal nôl. Maent yn dweud wrth lywodraethau, cwmnïau a sefydliadau beth sy’n rhaid iddynt wneud er mwyn delio â thlodi - p’un ai dweud wrth gwmnïau am dorri eu hallyriadau carbon er mwyn rhwystro newid hinsawdd neu ddweud wrth lywodraethau am roi mwy o gymorth i ymladd HIV.
Maent hwy gydag eraill wedi gwneud buddugoliaethau yn bosibl: yn erbyn apartheid, lleihau dyledion trydydd byd a gosod masnach ar yr agenda byd-eang.
Yr ydym yn annibynnol ar lywodraeth. Fel rhai sydd wedi arwyddo Còd Ymarweddiad y Groes Goch a’r Gilgant Goch, yr ydym yn amhleidiol a diduedd wrth ddosbarthu cymorth. Cawn ein rheoli gan y 41 eglwys sy’n ein noddi, ac sy’n ethol ein bwrdd o ymddiriedolwyr.
Fel cwmni elusennol cyfyngedig o dan warant, yr ydym wedi ein cofrestru gyda Tŷ Cwmnïau’r DG, Comisiwn Elusennol Lloegr a Chymru a Chofrestr Elusennol yr Alban. Yn Iwerddon sefydlwyd dau gwmni cyfyngedig o dan warant, un yng Ngogledd Iwerddon a’r llall yng Ngweriniaeth Iwerddon, sydd wedi eu cofrestru fel Cymorth Cristnogol Iwerddon.